Llambed Heddiw
O'r 1960au hyd heddiw, mae Llambed wedi cynyddu mewn maint
ac wedi newid. Yn 1801, y boblogaeth oedd 669 ac erbyn 1901
roedd y boblogaeth wedi cynyddu i 1722. yn 1991 roedd 1989 o
bobl yn byw yn y dref ac roedd 1410 ohonynt yn medru'r Gymraeg.
Felly, mae Llambed yn un o drefi lleiaf Cymru a'r Deyrnas Unedig,
ond mae'n dref gosmopolitaidd. Mae myfyrwyr o bob cwr o'r byd
yn dod i astudio yma a Llambed oedd y dref cyntaf yng Nghymru
i gael Maer Asiaidd. Mae addysg a thwristiaeth wedi ymuno ag
amaethyddiaeth fel prif ddiwydiannau. Mae Llambed yn awr yn
Sir Geredigion a cheir amrywiaeth eang o siopau a gwasanaethau
yma i gystadlu â nifer o drefi mawr. Lleolir Amgueddfa
Llambed rhwng Swyddfa'r Cyngor a'r Llyfrgell a gellir gweld
arddangosfa bach o arteffactau lleol yno. Mae'n werth ymweld
â'r Amgueddfa.
|
|