Hanes Cynnar
Mae cyfeiriadau cynnar at Llambed yn anodd i ddod o hyd iddynt.
Er hyn mae gweddillion ceyrydd, meini hirion a siambrau claddu
yn dystiolaeth o weithgareddau dynol yn yr ardal. Mae mwntiau
nifer o gestyll cynnar wedi eu lleoli ger y dref yn Olwen (SN580
492), Allt Goch (SN595 601), a Goetre (SN622 480). Gadawodd
y Rhufeiniaid eu hôl ar yr ardal hefyd, trwy adeiladu'r
heol, Sarn Helen. Mae rhai darnau o'r heol yma'n parhau i'w
cael eu defnyddio yn yr ardal heddiw. Adeiladodd y Rhufeiniaid
gaer a phwll glo ychydig filltiroedd i ffwrdd yn Nolau Cothi
hefyd.
Ceir un o gyfeiriadau gynharaf at Llambed yn 1137, pan ddinistriodd
Owain Gwynedd Gastell Pont Steffan a adeiladwyd gan y Brenin.
(Mae gweddillion y castell ar dir y coleg) Mae'n bosib yr oedd
yna gastell arall, uwchlaw safle'r Eglwys bresennol, er ychydig
a wyddwn am hyn. Cafodd Llambed ei grybwyll hefyd gan Gerallt
Gymro yn ystod ei daith i gasglu byddin ar gyfer yr Ymgyrchoedd
ac yn 1284 cafodd farchnad wythnosol a gynhaliwd ar Ddydd Iau
ei roi i Rhys ap Meredith.
Wedi ei leoli yn Sir Aberteifi (Ceredigion heddiw), un o'r
siroedd brenhinol a gafodd eu sefydlu gan Edward 1 ar ôl
trechiad Llywelyn yng Nghilmeri yn 1182, roedd Llambed o dan
Reolaeth uniongyrchol y Frenhiniaeth. Ychydig iawn o effaith
a gafodd hyn ar ddiwylliant y dref. Parhaodd y diwylliant a'r
iaith Gymraeg yn gryf yma.
|
|