Y Maenordai
Gelwid y maenor canoloesol, a barodd i mewn i'r bedwaredd ganrif
ar bymtheg fel sylfaen y llywodraeth lleol trwy'r pentreflys,
yn Peterwell, ac fe'i leolwyd ar ochr orllewinol y dref ger
Pontfaen. Mae'r safle ond yn adnabyddadwy heddiw wrth y nant
(Ffynonbedr) ger adfeilion maenor y ddeunawfed ganrif a enwid
hefyd yn Peterwell. Yn y bymthegfed ganrif roedd arglwyddiaeth
y maenor wedi ei breinio yn Thomas Griffith.
Yn ystod cyfnod y Tuduriaid, daeth ty mawr arall i'r amlwg,
sef ym Maesyfelin, ger safle'r Clwb Rygbi presennol. Roedd y
teulu a oedd yn breswylion yn y ty, sef y Lloyds o Faesyfelin,
yn deulu uchel eu parch. Griffith Lloyd oedd yr ail brifathro
yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen. Daeth Thomas Lloyd yn drysorydd
yn Nhyddewi ac mae ganddo fedd odidog yn yr eglwys gadeiriol.
Roedd Syr Marmaduke Lloyd yn farnwr ac yna daeth yn Brif Ustus
ar gylchdaith Brycheiniog, tra daeth ei fab, Syr Francis Lloyd
yn Aelod Seneddol dros Gaerfyrddin.
Yn ystod y Rhyfel Cartref, roedd y Lloyds yn Frenhinwyr ac
ar ôl iddynt gael eu carcharu yn Sain Ffagan, cawsant
eu ddirwyo'n drwm gan Cromwell. Ar ôl y digwyddiadau yma
dechreuodd teulu Maesyfelin golli eu dylanwad ac fe ddirywiodd
ty mawr Maesyfelin. Rhoddodd y bobl lleol y bai ar felltith,
a oedd wedi ei roi arnynt gan y Ficer Pritchard o Lanymddyfri.
Roedd y ficer, a oedd yn gyfansoddwr emynau nodedig, hefyd yn
ffrindiau da gyda teulu'r Lloyds. Dywedwyd bod mab y Ficer,
Samuel Prithchard wedi dechrau perthynas gyda chwaer Syr Francis
ac o ganlyniad, fe laddodd Syr Francis mab y ficer. Yna cafodd
ei gorff ei daflu i mewn i'r afon Tywi.
Roedd y Ficer yn gynddeiriog ac yn ei alar fe felltithiodd
ty Maesyfelin,
Melltith Duw fo ar Maesyfelin
Ar bob carreg a phob gwreiddyn
Am daflu blodyn tre' Llandyfri
Ar ei ben i Dywi i foddi.
Wrth i Maesyfelin ddirywio fe gododd y Peterwell newydd. Er
hyn, gan fod teulu'r Lloyds o Beterwell yn perthyn i deulu'r
Lloyds o Faesyfelin, a bod cerrig Maesyfelin wedi cael eu defnyddio
i ail-adeiladu Peterwell, mae chwedlau lleol yn dweud fod y
felltith hefyd wedi cael ei drosglwyddo. Ar y dechrau, roedd
ty Peterwell yn llewyrchus. Roedd y ty yn adeilad urddasol,
gyda pedwar twr â chromenni arnynt. Roedd ardd ar y to
hefyd. Roedd yna lôn urddasol yn arwain i'r ty o'r briffordd
hefyd.
Ei berchennog ag enw mwyaf drwg oedd Syr Herbert Lloyd. Llwyddodd
i godi ei statws gymdeithasol cyn ei golli eto. Cafodd farwnigaeth
ei rantio iddo gan George III, a bu'n Aelod Seneddol dros Aberteifi
o 1761 i 1768. Roedd hefyd yn gweithio fel Ynad Heddwch yn y
dref. Mae e'n cael ei gofio fel llywodraethwr llym a gormesol
na fyddai'n ildio ar ddim i gael yr hyn a fynnodd.
Mae hyn yn cael ei ddangos o'i driniaeth o berchennog tir o'r
enw Siôn Phillip. Roedd yr hen ddyn yma a'i wraig yn ffermio
ardal bach o dir a saif rhwng Peterwell a'r afon Teifi. Roedd
hyn yn flinder parhaol i Syr Herbert gan yr oedd ef eisiau'r
tir ond gwrthododd Siôn Phillip ei werthu. Hysbysodd Syr
Herbert fod hwrdd du, a oedd werth arian, wedi cael ei ddwyn
ac fe drefnodd bod yr hwrdd yn cael ei ostwng i lawr simne Siôn
Phillip ychydig o nosweithiau yn ddiweddarach. Gyda gwarant
a oedd wedi ei gyhoeddi ganddo ef ei hun, galwodd Syr Herbert
ar Thomas Evans y cwnstabl, ac aethant i chwilio drwy ty Siôn
Phillip. Yn y dyddiau yna medrir cosbi rhywun o drosedd drwy
ei grogi. Felly, ceisiodd Syr Herbert blacmelio Siôn Phillip
i werthu. Gwrthododd unwaith eto ac fe wylltiodd hyn Syr Herbert
ac o ganlyniad gorchmynnodd Syr Herbert iddo ymdeithio yn yr
eira i Aberteifi i aros am achos llys. Heb amddiffynydd, cafwyd
ef yn euog gan reithgor a oedd wedi cael ei ddewis gan Lloyd.
Crogwyd ef y tu allan i Aberteifi yn Ebrill 1763. Er bod y mwyafrif
o bobl yn gwybod y gwir ni amddiffynnodd neb Siôn Phillip.
Yna, cyflwynodd Syr Herbert ddogfen a oedd yn tosglwyddo perchnogaeth
y cae iddo ef. Tyngwyd ef bod Siôn Phillip wedi arwyddo'r
dogfen.
Yn 1766, ceisiodd drwy ddulliau tebyg i ennill tir ar fferm
Maespwll, y tro hwn trwy ddefnyddio tapestri gwerthfawr. Cafodd
y gweision eu gweld yn gostwng y tapestri i lawr y simne gan
delynor crwydrol. Rhybuddiodd y telynor y tenantiaid ac fe losgodd
y tenantiaid y tapestri.
Roedd Syr Herbert wedi cynhyrfu gormod o bobl i allu barhau.
Roedd ei yrfa fel Aelod Seneddol yn ddi-nod ac nid oes cofnod
ohono erioed yn siarad yn y Senedd. Cyn etholiad 1768, cynllwyniodd
yr ysweiniaid lleol i sicrhau nad oedd yn ennill sedd mewn etholiad
eto. Roedd llawer o gynghorwyr yn cael eu creu yn Aberystwyth
(roedd Lloyd ei hun wedi creu llawer o gynghorwyr i sicrhau
ei etholiad) ac fe gafodd gytundebau eu creu. Ni ddychwelodd
Lloyd i'r Senedd yn 1768.
Gan nad oedd yn Aelod Seneddol rhagor nid oedd ganddo'r breinryddid
yn erbyn dyledion ac fe gynyddodd ei drafferthion. Bu farw yn
Bath yn 1769 ac fe gafodd ei gorff ei ddychwelyd i Lambed er
mwyn ei gladdu. Roedd yn rhaid i'r angladd cael ei gynnal mewn
modd ddramatig - yn y tywyllwch, gan bod beliaid yn gwrthod
adael i'r corff gael ei gladdu tan bod y dyledion yn cael eu
talu!
Cafodd yr ystad ei werthu i deulu'r Harford, a oedd hefyd wedi
adeiladu maenordy newydd yn Falcondale. Yn ystod y 150 o flynyddoedd
nesaf cymerasant ddiddordeb yn y dref, ac maent yn cael eu cofio'n
dyner heddiw. Roedd y teulu'n gysylltiedig yn y ddarpariaeth
o ddwr glan i'w yfed i'r dref, yn yr adeiladwaith o'r rheilffordd
lleol a Neuadd y Dref. Teulu'r Harford a roddodd dir ar gyfer
adeiladu'r Brifysgol hefyd.
Yn ystod y ddeunawfed ganrif, roedd Llambed wedi dod yn ganolfan
masnach u pwysig. Ger yr archfarchnad presennol, y Co-operative,
roedd yna felin yd ac yng nghanol y dref roedd yna garcgar a
phostyn chwipio. Roedd gweinyddiaeth y dref yn nwylo y pentreflys
gyda Burgess a Potreeve, ac fel gyda gweddill o wleidyddiaeth
Sir Aberteifi, roedd anonestrwydd yn rhemp. Poblogaeth Llambed
yn 1801 oedd 696 ac roedd yn abos at ddwbl hyn yn 1871, sef
1225. Roedd porthmyn a oedd yn gyrru eu gwartheg i marchnadoedd
yn Lloegr yn stopio yma ac mae Llambed yn parhau i fod yn un
o ganolbwyntiau economi gorllewin Cymru.
|