Prifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan

Lleolir prifysgol hynaf Cymru yn Llambed a phrifysgol Llambed
yw'r hynaf yn Lloegr a Chymru ar ôl Rhydychen a Chaergrawnt.
Cafodd brifysgol Llambed ei sefydlu gan Esgob Tyddewi fel nad
oedd yn rhaid i ddisgyblion Cymraeg orfod teithio i Rydychen
i gael addysg. Cafodd y camau cyntaf yn sefydliad y Coleg eu
cymryd yn 1804, pan alwodd Esgob Burgess o Dyddewi ar gyfarfod
yn ei balas yn Abergwili. Er hyn, ni chafodd y safle ei ddewis
tan 1820. Y bwriad cyntaf oedd i adeiladu'r coleg yn Llanddewi
Brefi ond pan gynigodd J. S. Harford, Falcondale, dir yn Llambed,
penderfynodd yr Esgob Burgess i dderbyn y cynnig. Cafodd garreg
sylfaen yr Hen Adeilad (a enwir nawr yn Adeilad Sant Dewi) ei
osod gan yr Esgob Burgess ar y 12fed o Awst 1822 a dechreuodd
yr adeiladu o dan arweiniad y pensaer C. R. Cockerel. Cafodd
yr adeilad ei selio ar Goleg Rhydychen, gyda'i cwadranglau,
clasordai, llyfrgell a chapel. Yn briodol, cafodd y brifysgol
(a enwid yn Coleg Sant Dewi), ei agor ar Ddydd Gwyl Dewi, Mawrth
1af 1827 ac ar yr 21ain o Awst cafodd Capel y Coleg ei gysegru
gan yr Esgob Jenkinson a oedd wedi cymryd yr awenau yn Nhyddewi. |
|