Terfysgoedd Rebecca (Merched Becca)
Yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, tollffyrdd neu Dyrrpegau
oedd yn darparu rhwydwaith y cludiannau. Talwyd amdanynt gan
Ymddiriedolaethau, a oedd â'r hawl i osod tollau ac fe
ellir gweld nifer o dolldai yn Llambed a'r ardal heddiw. Roedd
yr ymddiriedolaethau yn anboblogaidd oherwydd roeddent yn tueddu
i roi nifer o dolldai ar ffyrdd a oedd yn cael eu defnyddio
gan ffermwyr, ac roedd yn rhaid iddynt dalu swm afresymol o
arian, achosodd y dicter yma ffyrnigrwydd yng Nghymru yn 1839
pan roedd dynion a oedd wedi gwisgo fel menywod yn llosgi tolldai.
Roedd y dynion yn galw eu hunain yn Merched Becca.
Ar noson y cyntaf o Awst 1843 cafwyd yr ymosodiad cyntaf a'r
unig ymosodiad yn Llambed. Digrifiwyd y digwyddiad yn "The
Welshman" (papur a oedd yn cefnogi'r Merched Becca),
"Ar nos Fawrth yn Llambed cafwyd
protest dda gan Merched Becca. Casglwyd 450 ohonynt ynghyd ac
roeddent yn cael eu rhagflaenu gan fand cerddorol. Fe wnaethant
ddinistrio gât Pontfaen tua 200 o letheni o Lambed ac
yna fe wnaethant martsio trwy'r dref at gât Maesyfelin
ac fe dorrwyd y gât i ddarnau. Yna, dychwelasant drwy'r
dref ac fe dorrasant y 'Pound Gate', a oedd wedi'i godi ar ffordd
y plwyf a oedd yn arwain i Lambed. Taflwyd darnau o'r gât
dros bont Llambed i fewn i'r afon Teify. Gât Cellan oedd
y nesaf i gael ei ddinistrio a'r Gât Fach yng Nghwmann
oedd yr olaf y noson honno. Nid oedd yna gyfrinachedd ynghlwm
â'r brotest honno. Roedd ceidwad y gatiau wedi cael eu
rhybuddio o'r brotest. Roedd y protestwyr i gyd yn arfog ac
roeddent yn tanio i'r awyr tra'n martsio. Dinistrwyd chwech
gât yn ystod y nôs yn Llambed a'r ardal. Roedd y
Merched Becca yn cerdded droeon trwy'r dref ac ni daniwyd ergyd
mewn dicter." |
|