Y Rheilffordd
Cafodd drafnidiaeth yn yr ardal ei wella'n fawr gyda agoriad
y rheilffordd i Lambed. Roedd y dref ynghlwm â llawer
o gynlluniau ond ni ddaeth ddim ohonynt. Er hyn daeth y trên
cyntaf i Lambed o Gyffordd Pencader ar y cyntaf o Fehefin 1866.
Cafodd y rheilffordd ei ymestyn i Ystrad Fflur ar y cyntaf o
Fedi, ac yn olaf i Aberystwyth yn Awst 1867. Perchnogion y rheilffordd
oedd y 'Manchester and Milford Railway Company', a oedd yn drychineb
ariannol, ac oedd wedi'i adeiladu i'r mesuriad presennol o bedwar
troedfedd ac 8.5 modfedd, yn hytrach na'r saith troedfedd o'r
'Great Western Railway'. Roedd tair trên yn cael eu rhedeg
yn ddyddiol heblaw am ar Ddydd Sul. O ganlyniad daeth Llambed
yn orsaf pwysig, er bod y gost o adeiladu'r rheilffordd yn arraf
yn gwneud y cwmni'n fethdalwyr. Ffrwydrodd Locomotif ager, Rhif
7 'Caerfyrddin', yn Maesycrugiau yn 1890. Aeth y 'Cambrian Railway'
â'r 'Manchester and Milford Railway Company' i'r llys
dros filiau a oedd heb eu talu. Yn y pendraw prynwyd y llinell
gan 'The Great Western Railway' yn 1906.
O dan nawdd John C. Harford, Falcondale, cafodd gangen leol
ei adeiladu rhwng Llambed ac Aberaeron, a agorwyd yn 1911. Gwerthwyd
hwn i'r GWR yn ddiweddarach hefyd.
Ar ôl cenedlaetholi'r rheilffyrdd, daeth y gwasanaeth
i Aberaeron i ben. Parhaodd y trên i deithwyr ar y brif
linell i Gaerfyrddin ac Aberystwyth tan Ionawr 1965 pan wnaethant
beidio oherwydd llifogydd ac ni chawsant eu ail-ddechrau. Roedd
llaeth yn parhau i gael ei gludo gan y rheilffordd tan 1973,
pan drosglwyddwyd y traffig i'r ffyrdd. Cafodd y cledrau eu
codi ychydig arôl hyn. Ychydig sy'n weddill o'r rheilffordd.
Mae'r gorsaf fawr a'r iard nwyddau yn rhan o'r Brifysgol a'r
mart nawr. Er hyn mae'r enw Station Terrace a phont y rheiffordd
dros yr afon Teifi ger yr archfarchnad Co-operative yn ein atgoffa
o'r darn yma o hanes Llambed.
|
|