Llambed yn ystod y rhyfeloedd
Roedd llambed yn bell o flaen y gad yn ystod y Rhyfel Mawr
(1914-1918). Er hyn roedd llawer o ddynion y bwrdeistref a'r
coleg wedi ymateb i'r alwad i'r gad. Yn anffodus ni ddychwelodd
llawer ohonynt. Collodd y dref 41 o ddynion yn y rhyfel. Gadawodd
yr iwmoniaeth Llambed ar y degfed o Awst 1914, a 28 o bobl yn
unig oedd yn y coleg. Fel yn nhrefydd eraill, cynhaliwyd nifer
o ddigwyddiadau er mwyn codi arian i ffoaduriaid Belgaidd ac
i helpu gyda ymdrech y rhyfel. Roedd ffermydd yn ardal Llambed
yn darparu bwydydd i'r lluoedd arfog, a phan ddaeth gwasanaeth
milwrol yn orfodolyn 1916, creuwyd tribiwnlys, a oedd yn cynnwys
aelodau o'r Cyngor, i wrando ar achosion a oedd am esgusodiad.
Pan ddaeth y rhyfel i ben, darllenodd y maer ddatganiad o falconi
Neuadd y Dref. Ar ôl y rhyfel, ysgrifennodd y Cyngor at
y Prif Weinidog yn gofyn am danc Almaeneg er mwyn ei arddangos
ar Sgwar Harford. Yn lle'r tanc cawsant ddryll Howitzer ac fe
ddangoswyd y dryll am lawer o flynyddoedd yng nghanol y dref.
Ar ôl y rhyfel cafodd dir ei roi gan y brodyr Lloyd o
Bryn House er mwyn cael rhyw fath o gofiant. Casglwyd arian
a chafodd y cofgolofn ei gerflunio gan Syr W. Gascombe John,
RA. Cafodd ei arddangos yn yr Academi Frenhinol ac fe gafodd
ei ddadorchuddio gan yr Uwchgapten JC Harford ar y 14eg o Hydref
1921.
Yn ystod yr Ail Rhyfel Byd 1939-1945, ymatebodd bobl Llambed
i alwad y gad unwaith yn rhagor, ac fe syrthiodd nifer yn y
coleg eto. Daeth y dref yn ganolfan dosbarthu pwysig oherwydd
roedd yna wersyll i garcharorion rhyfel yn Henllan, gwersyll
RAF yn Llanon a Byddin y Tir yn Felinfach. Trowyd Neduadd Fictoriai
mewn i ystordy fwyd a'r Neduadd Drill fel llety a bwtsiera.
Roedd yna storfa fawr o betrol yn safle'r Maes Parcio y Rookery,
a oedd yn defnyddio'r coed fel gorchydd. Creuwyd lloches cyrch
awyr fawr ar safle'r Ysgol Gyfun presennol. Ni gwympodd yr un
fom ar Lambed ond fe gwympodd lawer o fomiau ar Pencarreg Lake
efallai oherwydd bod y lle wedi cael ei gamgymryd fel ffatri.
Roedd yna hefyd caerau tanddaearol ar y briffordd ac mae un
wedi goroesi ar ochr waelod Bridge Street.
|
|