llambed.org / lampeter.org Llanbedr Pont Steffan - Lampeter
Cartref Menter Llambed Cyngor y Dref Siambr Fasnach English


Menter logo

Lleoliad a'r Tywydd

Prif Dewislon

Newyddion a Digwyddiadau
Lleoliad a'r Tywydd
Hanes
Busensau Lleol
Mannau i Aros
Gwasanaethau
Adloniant
Oriel Lluniau
Cysylliadau Lleol
Llwybrau Llanbed
Sioe Amaethyddol Llambed

Y Tywydd diweddaraf

Am ragolygon y tywydd diweddaraf am Llambed ymwelwch â Chanolfan Tywydd y BBC

Ble mae Llambed?

Map o CeredigionMap o Brydain

Mae Llanbedr Pont Steffan yng nghanolbarth Cymru, taith o ryw 4 awr o Fanceinion neu Lundain ar y ffordd fawr. Y meysydd awyr rhyngwladol agosaf yw Caerdydd a Birmingham. Mae'r rheilffordd yn cyrraedd Aberystwyth tua'r gogledd, a Chaerfyrddin tua'r de. Mae cysylltiadau bws TrawsCambria o Gaerdydd ac Abertawe yn y de, ac o Gaergybi yn y gogledd. Mae'r Brifysgol yng nghanol tref Llanbedr Pont Steffan ar yr A485 (wrth deithio o'r De rydym ar heol Tregaron).

Gyda'r car

O'r de
Mae'r M4 yn cyrraedd hyd at Gaerfyrddin, yna rhaid teithio ar yr A485 i'r gogledd i gyfeiriad Llanbedr Pont Steffan (tua 45 munud arall).

O'r gogledd
O ogledd neu ganolbarth Lloegr rhaid mynd i Aberystwyth a theithio ar yr A487 i Lanbedr Pont Steffan trwy Aberaeron.

Hyd y daith

Caerdydd i Lanbedr PontSteffan
Caeredin i Lanbedr Pont Steffan
Dulyn i Lanbedr Pont Steffan
Llundain i Lanbedr Pont Steffan
Manceinion i Lanbedr Pont Steffan
Efrog i Lanbedr Pont Steffan

1 awr 45 munud
7 awr
5-6 awr
5 awr
3awr 30 munud
6 awr

Gyda'r trên

Y prif orsafoedd agosaf yw -

  • Caerfyrddin ar gyfer Caerdydd, Llundain a De Lloegr

  • Aberystwyth ar gyfer Canolbarth a Gogledd Lloegr a'r Alban

Amserlenni a gwybodaeth i deithwyr

Gyda'r bws

Mae gwasanaeth bws Traws Cambria yn cysylltu Llanbedr Pont Steffan ag Aberystwyth a Bangor i'r gogledd a Chaerfyrddin, Abertawe a Chaerdydd yn y de. O Fangor ceir gwasanaeth bws ychwanegol i Gaergybi i gwrdd â'r llongau fferi i Iwerddon.

National Express - Rhwydwaith bysiau Prydain

Gwasanaethau Llongau

Stena Sealink (Abergwaun a Chaergybi)

Mae amser hwylio'r llong fferi a'r Lynx yn amrywio yn ôl y tymor ac yn ddibynnol ar y tywydd yn ogystal, felly gwell cysylltu â'r porthladd cyn cychwyn.

Meysydd Awyr

Maes Awyr Birmingham (Canolbarth Lloegr)

Mae ym Maes Awyr Birmingham ddwy derfynell, mae'r Brif Derfynell yn gwasanaethu awyrennau a theithiau siartr, ac mae terfynell Eurohub yn gwasanaethu teithwyr i'r DU ac i Ewrop.

Maes Awyr (Cymru) Caerdydd

Mae ym Maes Awyr Cymru-Caerdydd wasanaeth i nifer o ddinasoedd Ewrop; gellir hedfan i bedwar ban trwy Amsterdam. Gallwch hefyd hedfan i Gatwick, Heathrow, Birmingham a Manceinion.

Cyswllt bws Maes Awyr Caerdydd

Gwasanaeth cymharol newydd yw hwn sy'n cludo teithwyr o Orsaf Canol Caerdydd i Faes Awyr Caerdydd ac yn ôl, mae bysiau yn mynd bob awr am 40 munud wedi'r awr rhwng 8.40 a 18.40.

Maes Awyr Heathrow

Mae ym Maes Awyr Heathrow bedair terfynell, a gellir cyrraedd pob un ar drên tanddaear (llinell Picadilly), terfynellau un, dwy a thair mewn un orsaf, terfynell pedair ar un arall.

Mae awyrennau Prydeinig yn hedfan ar draws y byd o Derfynell 4, mae pob cwmni awyrennau arall yn hedfan o Derfynellau 1, 2 a 3.

Maes Awyr Gatwick

Mae ym Maes Awyr Gatwick ddwy brif derfynell. Gellir cyrraedd pob terfynell ar y trên. Mae'r Gatwick Express yn gadael gorsaf Victoria bob 30 munud. Mae llinell gyswllt Thames link hefyd yn teithio i Gatwick.

Maes Awyr Manceinion

Gellir cyrraedd Maes Awyr Manceinion yn uniongyrchol ar y trên. Mae Manceinion yn faes awyr rhyngwladol a'r awyrennau yn gadael i bedwar ban byd.

Rhifau Ffôn defnyddiol

Maes Awyr Gatwick:)

01293 517755 

Maes Awyr Heathrow :

0181 759 4321 

Maes Awyr (Cymru) Caerdydd:

01446 711111 

Maes Awyr Manceinion :

0161 489 3000 

Maes Awyr Birmingham (Midlands) :

0121 767 5511 

Tacsi Dai (Llanbedr Pont Steffan)

0836 648591 

Ace Taxis (Caerfyrddin)

01267 222712 

Taxi (Aberystwyth)

01970 627070 

Trawscambria (Gwasanaeth Bws Cenedlaethol

01970 611977 

Y Brodyr Davies (gwasanaeth bws lleol

01559 384209 

Ymholiadau trenau (24 awr)

0345 48 49 50


Noddedig gan Menter Llambed Cyf
Ariannwyd gan Cynnal Ceredigion

Valid cssValid XHTML

Menter logo Cynnal CeredigionLogo Cynulliad Cenedlaethol Cymru © 2006 Menter Llambed
Cysylltu â Ni | Gwadiad