Nodau ac Amcanion
Amcanion y Siambr Fasnach yw gwasanaethu a hyrwyddo buddiannau’r gymuned fusnes yn Llambed, a chyflwyno gwybodaeth, cyngor a chymorth i’r gymuned fusnes; ac ymgymryd, neu annog aelodau i ymgymryd, â gweithgareddau a threfniadau ar y cyd er mwyn cydgefnogaeth ac er mwyn hyrwyddo buddiannau’r gymuned fusnes a’r Dref.
Aelodaeth
Ymaelodir drwy danysgrifiad. Gosodir yr isafswm yn flynyddol gan yr aelodau, i’w dalu mewn un cyfraniad blynyddol.
Cyfarfodydd
Cynhelir cyfarfodydd misol bob trydydd dydd Llun, yn ogystal â chyfarfodydd y pwyllgor. Mae pob cyfarfod misol yn cynnwys cyflwyniad neu wibdaith a drefnir i ddiweddaru gwybodaeth i’r aelodau am gyfleoedd busnes newydd neu wybodaeth am brofiad gwŷr busnes llwyddiannus eraill.
|
|