llambed.org / lampeter.org Llanbedr Pont Steffan - Lampeter
Cartref Menter Llambed Cyngor y Dref Siambr Fasnach English


Menter logo

Y Siambr Fasnach

Prif Dewislon

Newyddion a Digwyddiadau
Lleoliad a'r Tywydd
Hanes
Busensau Lleol
Mannau i Aros
Gwasanaethau
Adloniant
Oriel Lluniau
Cysylliadau Lleol
Llwybrau Llanbed
Sioe Amaethyddol Llambed

Ar ran Siambr Fasnach Llanbedr Pont Steffan
y mae’n bleser gennym eich croesawu i’n tref.

Tref farchnad fechan ond ffyniannus yw Llambed wedi’i lleoli ym mhrydferthwch Dyffryn Teifi. Y mae’r dref yn falch o fod yn gartref i’r sefydliad Prifysgol hynaf yng Nghymru a Lloegr ac eithrio Rhydychen a Chaergrawnt.

Y mae Llambed yn dref enwog am ei chroeso cynnes a’i siopau ardderchog gan gynnig i’n hymwelwyr y gorau o ddau fyd: hedd a thawelwch ardal brydferth sydd heb ei difwyno, a chyfleustra gwestyau o’r radd flaenaf, bwytai, tai te a siopau safonol. Mae Llambed yn fan delfrydol ar gyfer ymweliad diwrnod neu yn ganolfan i ymweld â mannau prydferth y cyffiniau.
Nid hyrwyddo busnes Llambed yn unig y mae Siambr Fasnach Llanbedr Pont Steffan. Mae’r aelodau hefyd yn brysur iawn ym mywyd cymunedol y dref ac yn trefnu digwyddiadau yma yn rheolaidd.

Mae’r digwyddiadau blynyddol a drefnir gan Siambr Fasnach Llanbedr Pont Steffan yn cynnwys:

Gŵyl Fwyd
Llambed mewn Blodau
Gweithgareddau’r Nadolig



Y mae Siambr Fasnach Llanbedr Pont Steffan yn tynnu ei haelodaeth yn bennaf (ond nid yn unig) o gymuned fusnes Llambed a’r cyffiniau.

Aelodau Siambr Fasnach Llanbedr Pont Steffan yn dechau eu taith feicio noddedig o Lynnoedd Teifi i Lanbedr Pont Steffan er mwyn codi arian tuag at Gronfa Goleuadau Nadolig y Dref.  Codwyd dros £3,000.  Hoffai'r beicwyr ddiolch i Wasg Gomer am ddefnydd o'r fan, i'r noddwyr i gyd ac i bawb a gefnogodd.  Llun: Dafydd Lewis.
 
Gwybodaeth bellach gan Gwynfor Lewis: 01570422540 


Yn y Rhan Yma
Cartref
Aelodau
Nodau ac Amcanion
Swyddogion

Noddedig gan Menter Llambed Cyf
Ariannwyd gan Cynnal Ceredigion

Valid cssValid XHTML

Menter logo Cynnal CeredigionLogo Cynulliad Cenedlaethol Cymru © 2006 Menter Llambed
Cysylltu â Ni | Gwadiad